Cwm Tawe: Clydach i Ystalyfera

Taith ysgafn iawn yw hon ar hyd llwybr tynnu camlas a hen reilffordd, yn dilyn llawr y dyffryn rhwng dwy o brif drefi Cwm Tawe.
Gan ddechrau o Barc Coed Gwilym mae’r llwybr yn cydio yn y llwybr tynnu camlas ac yn mynd a chi i ganol Pontardawe. Gan symud i ffwrdd o’r gamlas a dilyn glan yr afon fe ddewch i’r hen lein rheilffordd. Bydd hyn yn mynd â chi drwy goedwigoedd sy’n rhedeg gyda’r afon cyn dod allan ar gyrion Ystalyfera.
Gall y daith gael ei thorri’n hanner o ran hyd os arhoswch ym Mhontardawe, ond gall hefyd gael ei hymestyn drwy feicio yn y cyfeiriad arall. Os ydych yn teimlo’n arbennig o egnïol mae’n bosibl reidio o Glydach i’r Mwmbwls bron yn llwyr ar lwybrau di-draffig.
Gweler teithiau Clydach i Abertawe, Port Talbot i Gydweli a Phort Talbot i Gastell-nedd o adrannau eraill y gallech eu cymysgu a’u cyfatebu i greu eich teithiau eich hun.
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Swansea Valley: Clydach to Ystalafera in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
De Orllewin Cymru
- Pellter:
6.5 milltir
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
43
- Cychwyn:
Clydach
- Gorffen:
Ystalyfera
- Mynediad:
Gorsafoedd rheilffordd Llansamlet neu Abertawe
- Tywydd:
-
Gwener
uchaf: 15°C isaf: 10°C
-
Sadwrn
uchaf: 14°C isaf: 9°C
-
Sul
uchaf: 14°C isaf: 8°C
-
Llun
uchaf: 14°C isaf: 10°C
Dewis llwybr arall