Llwybr Beiciau Abertawe

Mae Bae Abertawe cromlinog yn lleoliad perffaith ar gyfer llwybr beiciau a thrwy lwc (a gweledigaeth gynllunio) mae llwybr o’r fath yn bodoli sy’n rhedeg o’r Ardal Arforol yng nghanol y ddinas draw i’r Mwmbwls ar hyd llwybr hen reilffordd y Mwmbwls.
Mae gan y llwybr olygfeydd bendigedig ar draws Bae Abertawe i Benrhyn y Mwmbwls, sy’n dynodi dechrau Penrhyn Gŵyr. Mae caffis, bwytai a thafarnau yn y Mwmbwls mewn lleoliad prydferth sy’n cynnwys Castell Ystumllwynarth o’r ddeuddegfed ganrif sy’n gwarchod y ffordd i Benrhyn Gwŷr dros y tir.
Mae’r daith yn ffurfio rhan o Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, Y Lôn Geltaidd, sy’n parhau ar hyd Parc Gwledig Dyffryn Clun di-draffig tuag at Dre-gŵyr a Llanelli.
Disgrifiwyd Abertawe fel yr ‘ugly, lovely town’ gan Dylan Thomas, a anwyd yma. Hon yw’r ail ddinas fwyaf yng Nghymru, wedi Caerdydd, gyda llawer ohoni wedi ei hail-adeiladu yn dilyn bomio trwm yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn yr ugeinfed ganrif gwelodd y dociau ddirywiad ond maent wedi eu hadfywio’n ddiweddar gan greu Ardal Arforol newydd, gyda marina ar gyfer 600 o longau yn hen Ddoc y De yn ganolbwynt iddi.
Mae’r Mwmbwls yn ganolfan hwylio a chwaraeon dŵr brysur ond sydd wedi cadw ei gymeriad fel cyrchfan glan môr Oes Victoria.
Atyniadau naturiol:
- Golygfeydd o Benrhyn Gŵyr
Atyniadau i ymwelwyr:
- Castell Ystumllwynarth
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Larger Map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Abertawe
- Pellter:
6 milltir un ffordd
- Amser sydd ei angen:
1 1/2 - 2 awr
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Tarmac
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 4
- Cychwyn:
Ardal Arforol, Abertawe
- Gorffen:
Y Mwmbwls
- Llogi beiciau:
Action Bikes, Sgwâr Dewi Sant, Abertawe. Ffôn: 01792 464640
- Mynediad:
Gorsaf drên yn Abertawe
- Mapiau a llysrynnau:
-
Lôn Geltaidd – Gorllewin RhC4C £6.99
- Cysylltiadau Gyda:
Llwybr Dyffryn Clun i Dre-gŵyr
Camlas Abertawe
- Tywydd:
-
Heddiw
uchaf: 15°C isaf: 14°C
-
Sul
uchaf: 15°C isaf: 9°C
-
Llun
uchaf: 10°C isaf: 4°C
-
Mawrth
uchaf: 9°C isaf: 2°C
Dewis llwybr arall