Llandrillo yn Rhos i Bensarn
Mwynhewch y daith agored ac awelog hon ar hyd y promenâd llydan sy’n ymestyn o Landrillo yn Rhos a Bae Colwyn i Bensarn.
Mae i’r daith gefndir o fryniau coediog yn codi dros 600 troedfedd. Yn y blaendir mae toreth o feysydd carafannau - nid oes fawr o fannau sy’n fwy poblogaidd gyda pherchnogion carafannau nag arfordir gogledd Cymru!
Mae’r daith yn rhedeg ar hyd glan y môr prysur Bae Colwyn cyn mynd heibio i’r angorau concrid cywrain sydd wedi eu dadlwytho mewn pentyrrau mawr ar hyd yr arfordir i atal erydiad y môr. Bydd dwy ddringfa fer yn mynd â chi dros y glanfeydd sy’n cludo’r cerrig o’r chwareli i’r môr. Yn y bryniau coediog rhwng Llanddulas ac Abergele fe gewch gipolwg ar Gastell Gwrych atmosfferig.
Noder Taith arfordirol agored yw hon a dylech fod yn ymwybodol iawn o’r gwynt (fel arfer o’r gorllewin). Os ydych am feicio yno ac yn ôl mae’n well teithio i mewn i’r gwynt ar y dechrau tra eich bod yn ffres a chael y gwynt i’ch helpu ar y daith yn ôl. Dewis arall yw dal y trên ac yna gwneud taith unffordd, â’r gwynt tu cefn i chi i’ch helpu yn ôl i’r man cychwyn.
Atyniadau naturiol:
- Arfordir Môr Iwerddon a’r traethau
- Y bryniau coediog yn codi o’r arfordir
Atyniadau i ymwelwyr:
- Trefi glan môr Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn a Llanddulas
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Larger Map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Conwy
- Pellter:
7 milltir un ffordd
- Amser sydd ei angen:
2-3 awr
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Tarmac
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 5
- Cychwyn:
Canolfan Groeso Llandrillo yn Rhos
- Gorffen:
Gorsaf reilffordd Abergele a Phensarn
- Llogi beiciau:
West End Cycles, 121 Ffordd Conwy, Bae Colwyn. Ffôn: 01492 530269 neu www.westendcycles.com
- Mynediad:
Gorsafoedd trên ym Mae Colwyn ac Abergele a Phensarn
- Mapiau a llysrynnau:
-
Mae Cycling in the UK gan Sustrans yn cynnwys y daith hon.
- Cysylltiadau Gyda:
Mae’r promenâd arfordirol di-draffig yn parhau i’r dwyrain i Brestatyn
- Tywydd:
-
Heddiw
uchaf: 9°C isaf: 3°C
-
Mawrth
uchaf: 7°C isaf: 0°C
-
Mercher
uchaf: 6°C isaf: 1°C
-
Iau
uchaf: 7°C isaf: 2°C
Dewis llwybr arall