Llwybr rheilffordd Pont-y-pŵl i Flaenafon

Os ydych yn dod o gyfeiriad gorsaf drenau Pont-y-pŵl trowch i’r dde i ffordd dawel, cyn troi i’r chwith i’r briffordd am tua 1/2 km. Trowch i’r chwith i Lwybr RhBC 49 sy’n rhedeg gerllaw’r gamlas gan gadw llygad am y tro i’r chwith i Lwybr RhBC 492.
Tra eich bod ar y llwybr camlas, gallwch gael egwyl hyfryd i ginio yn y caffi badau ym Masn Pont-y-moel, cyfle perffaith i fagu nerth ar gyfer y daith sydd o’ch blaen.
Mae’r llwybr yn dechrau dringo wrth iddo fynd tua’r gogledd o Bont-y-pŵl drwy Abersychan i Flaenafon, ac yn fuan dewch i ddarn hir o goetir llydanddail hyfryd, sydd â golygfeydd dramatig i’r dwyrain ar draws dyffryn Afon Llwyd. Fe welwch ddigonedd o fywyd gwyllt ar hyd y ffordd; cadwch lygad am ferlod bach a diadelloedd o ddefaid yn closio at y ffensys. Gyda ddringfa raddol i dros 650 troedfedd (200 metr) i Flaenafon mae’n amlwg y bydd y daith yn ôl i Bont-y-pŵl yn haws!
Os digwyddwch weld ager yn y pellter rydych yn agosáu at reilffordd treftadaeth Blaenafon. Caewyd y llinell i deithwyr ym 1941, er y cafodd yr adran o Flaenafon i Bont-y-pŵl ei defnyddio i gludo glo o’r Pwll Mawr a phyllau lleol eraill tan 1980. Cymrwch egwyl, clowch eich beic a theithiwch yn ôl mewn amser ar un o’u locomotifau ager gwreiddiol.
Mae’r daith yn diweddu yn Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Pwll Mawr. Mae’r amgueddfa ryfeddol hon yn union ar ddiwedd y llwybr, ac mae’n gwneud y daith yn werth chweil. Mae nodweddion gwreiddiol - fel y Baddonau Pen Pwll - yn dod a bywyd ffas y glo yn fyw. Ewch y 300 troedfedd o dan ddaear gyda glöwr go iawn a gweld sut brofiad ydoedd i i filoedd o ddynion (a merlod pwll glo!) a weithiai ar y ffas lo.
Oddi yma gallwch hefyd fynd ar wyriad i mewn i Flaenafon, Safle Treftadaeth Byd balch, a chwaraeodd ran arwyddocaol yn y Chwyldro Diwydiannol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Teithiwch yn ôl yr un ffordd ag a ddaethoch arni, ond y tro yma i lawr rhiw!
Atyniadau naturiol:
- Coedwig lydanddail i’r gogledd o Abersychan, golygfeydd o’r dyffryn
Atyniadau i ymwelwyr:
- Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Pwll Mawr
- Safle Treftadaeth Byd Blaenafon
- Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon
- Basn Pont-y-moel
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Larger Map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Cymoedd De Cymru
- Pellter:
9 milltir
- Amser sydd ei angen:
1.5 awr
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 492
- Cychwyn:
Hanbury Road, Pont-y-pŵl (ger cylchfan yr A472 / A4043)
- Gorffen:
Y Pwll Mawr, Blaenafon
- Llogi beiciau:
Mountain Tours, Blaenafon. Ffôn: 01495 793 123
- Mynediad:
Gorsaf drên ym Mhont-y-pŵl
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Geltaidd Dwyrain NN4B £6.99
Arweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
Taflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim
- Cysylltiadau Gyda:
Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu o Bont-y-pŵl i Gasnewydd
Mae rheilffordd Brynmawr i Glydach ychydig i’r gogledd
- Tywydd:
-
Mercher
uchaf: 25°C isaf: 13°C
-
Iau
uchaf: 22°C isaf: 12°C
-
Gwener
uchaf: 26°C isaf: 14°C
-
Sadwrn
uchaf: 25°C isaf: 11°C
Dewis llwybr arall