Taith Cynon
Taith Cynon yw un o’r llwybrau beicio diweddaraf i gael ei agor yn y cymoedd. Gan ei fod yn rhedeg ar hyd coridor naturiol Afon Cynon, mae’n rhoi cyfle gwych i feicio yn y rhan godidog hwn o Dde Cymru.
Cysylltir Taith Cynon i Barc Afon Cynon lle mae rhwydwaith o lwybrau beicio yn cael eu datblygu i gysylltu â’r trefi a’r pentrefi cyfagos. Mae’r llwybr yn arbennig o ddeniadol i feicio gan ei fod yn cysylltu safleoedd bywyd gwyllt, hamdden a hanesyddol.
Mae’r daith yn mynd ar hyd adrannau hen gamlas o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n rhedeg ochr yn ochr ag Afon Cynon am y rhan fwyaf o’i hyd. Cafodd hen lein rheilffordd, a ddilynir yn awr gan y llwybr, ei chodi yn ddiweddarach wrth i gynhyrchu glo gynyddu yn y cwm. Cysylltwyd llawer o’r pyllau glo i’r rheilffordd gan linellau cangen a seidins. Fodd bynnag, cafodd ymarferoldeb economaidd y gamlas - fel hanes y rhan fwyaf o gamlesi ar yr adeg honno - ei beryglu gan ddyfodiad y rheilffordd; llwyddodd perchnogion y camlesi i ddal y caniatâd i godi pontydd dros y gamlas yn ôl hyd nes y cafwyd dyfarniad llys ym 1851.
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Cynon Trail in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
De Ddwyrain Cymru
- Pellter:
11 milltir
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Di-draffig yn bennaf ond rhai adrannau ar y ffordd
- Wyneb:
Cymysg
- Cychwyn:
Abercynon
- Gorffen:
Hirwaun
- Mynediad:
Gorsaf reilffordd yn Abercynon
- Tywydd:
-
Gwener
uchaf: 13°C isaf: 8°C
-
Sadwrn
uchaf: 12°C isaf: 10°C
-
Sul
uchaf: 12°C isaf: 8°C
-
Llun
uchaf: 13°C isaf: 8°C
Dewis llwybr arall