Nôl

Lôn Geltaidd

Celtic Trail

Gan groesi Cymru yn ei man mwyaf llydan, mae’r Lôn Geltaidd yn mynd drwy Dyddewi, Parc Cenedlaethol trawiadol Arfordir Penfro, cestyll dramatig Hwlffordd, Penfro a Chydweli, Parc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli ac ehangder Bae Abertawe. Yma mae gennych ddewis i naill ai ddringo bron i 200 troedfedd ar lwybr uchel drwy goedwigoedd enfawr sy’n gorchuddio’r bryniau rhwng Castell-nedd a Phontypridd neu ddilyn y llwybr isel sy’n agosach i’r arfordir drwy Barc Gwledig Par Margan a Gwarchodfa Natur Parc Slip, i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr.

Am gyfnod byr mae’r Lôn Geltaidd a Lôn Las Cymru yn rhedeg yn gyfochrog rhwng Pontypridd ac Abercynon. Mae gwaith adfywio rhagorol wedi creu llwybr gwych, ac un sy’n bennaf ddi-draffig o Drelewis, i’r gogledd o Abercynon, drwy hyfrydwch coediog Parc Gwledig Cwm Sirhywi ac ar hyd llwybr tynnu Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu i mewn i ganol Casnewydd. Bydd taith uchel ysblennydd ar y Bont Gludo yn mynd â chi i lan dwyreiniol afon Wysg, gan adael ond ychydig o filltiroedd o feicio hawdd i gyrraedd Cas-gwent ac un o’r cestyll gorau ym Mhrydain.

Adrannau dyddiol

Gellir torri’r llwybr yn gymalau, gyda’r rhan fwyaf tua 25-40 milltir o hyd. Efallai y byddwch am gyfateb y cymalau hyn gyda thaith bob dydd, ond cofiwch mai dim ond awgrym yw hyn: efallai y byddwch yn dewis gwneud mwy nag un cymal y dydd neu efallai y byddai’n well gennych wneud hanner diwrnod a chymryd seibiant er mwyn ymweld â rhai o’r atyniadau ar hyd y ffordd. Mae’r cymalau yn cychwyn ac yn gorffen mewn trefi lle y bydd dewis rhesymol o lety a lluniaeth.

Mae’n well beicio’r llwybr o’r gorllewin i’r dwyrain er mwyn gwneud defnydd da o’r gwyntoedd gorllewinol y tu cefn i chi. Ar wahân i’r darn cyntaf, o Abergwaun i Dyddewi, pan fyddwch yn teithio i’r gorllewin a bydd y gwynt yn debygol o fod yn eich wyneb, dylai’r gwyntoedd ar y cyfan eich cynorthwyo wrth i chi deithio i’r dwyrain tuag ar Gas-gwent.

Cymal 1: Abergwaun* i Broad Haven (36 milltir).

Cymal 2: Broad Haven i Lacharn (46 milltir).

Cymal 3: Lacharn i Gydweli (32 milltir).

Cymal 4: Cydweli i Abertawe (Mwmbwls) (29 milltir).

Cymal 5: Abertawe i Bontypridd ar Lwybr Uchel (40 milltir).

Cymal 5A: Abertawe i Bontypridd ar Lwybr Isel (40 milltir).

Cymal 6: Pontypridd (Mynwent y Crynwyr) i Gas-gwent (44 milltir).

* Dim ond un trên y dydd sydd i Abergwaun, yn cyrraedd tua 1330 awr, felly efallai y byddwch ond am fynd cyn belled â Thyddewi (18 milltir)


Atyniadau naturiol:


  • Arfordir Sir Benfro

  • Parc Arfordirol y Mileniwm Llanelli

  • Gwarchodfa Natur Parc Slip

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Eglwys Gadeiriol Tyddewi

  • Castell Penfro

  • Lacharn gyda chysylltiadau Dylan Thomas

  • Castell Cydweli

  • Gwaith Haearn Tondu

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


View Larger Map

Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

De Cymru

Pellter:

220 milltir

Amser sydd ei angen:

5-7 diwrnod

Dosbarthiad:

Wyneb:

Cymysg

Llwybr RhBC:

Llwybrau Cenedlaethol 4 a 47

Cychwyn:

Abergwaun

Gorffen:

Cas-gwent

Mynediad:

Gorsafoedd trên yn Abergwaun a Chas-gwent a sawl gorsaf rhyngddynt.

Mapiau a llysrynnau:









Map Lôn Geltaidd Dwyrain NN4B £6.99

nn4cMap Lôn Geltaidd Gorllewin NN4C £6.99

Arweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
Taflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim

Cysylltiadau Gyda:

Lôn Teifi yn Abergwaun

Lôn Las Cymru ger Pontypridd


Dewis llwybr arall
Sustrans