Parc Fforest Afan a Glyncorrwg

Mae cwm Afan yn prysur ddod yn gartref beicio yn Ne Cymru, gyda theithiau beic mynydd o’r safon uchaf a hefyd llwybrau di-draffig sydd wedi’u cynllunio ar gyfer teuluoedd.
Mae’r hen linellau rheilffordd sy’n ymestyn ar hyd y cwm ac ar hyd sawl un o’i ganghennau wedi eu haddasu i fod yn deithiau beicio teuluol ardderchog.
Mae’r ddwy lein a arferai redeg bob ochr i’r cwm rhwng y Cymer a Phontrhydyfen yn darparu llwybr cylchol gwych, gyda phwyntiau mynediad a meysydd parcio ar gael mewn amryw fannau ar hyd y llwybr.
Mae’r adrannau rheilffordd sy’n mynd o’r Cymer i Flaengwynfi a Glyncorrwg yn cynnig dewisiadau llinellol byrrach a gellir hefyd eu hychwanegu at y prif lwybr cylchol i’r rhai hynny sy’n teimlo ychydig yn fwy egnïol.
Hefyd ceir braich ar y rhwydwaith rheilffyrdd sy’n mynd o Bontrhydyfen i gyfeiriad Tonmawr. Mae’r hen reilffordd yn diweddu fel mae’n digwydd wrth gefn Tafarn y Colliers oherwydd bod yr hen bont dros y ffordd wedi’i thynnu i lawr, ac oddi yno mae’n rhaid mynd ar y ffordd i gyrraedd Tonmawr. Y dewis arall yw defnyddio adran ffordd sydd wedi cau, ond sy’n dal yn bosibl mynd arni ar droed neu ar feic, i ddringo dros y bryn i Cimla a Chastell-nedd gan fynd heibio bwyty T-bone a chanolfan ferlota Cimla.
Gelir cael bwyd a lluniaeth yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Fforest Afan, Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg neu’r hen orsaf yn y Cymer sydd nawr yn dafarn a bwyty.
Yn olaf, gwneir gwelliannau pellach i’r rhwydwaith fel rhan o brosiect Connect2 a ariannir gan y loteri yn rhoi llwybr bob cam i lawr y dyffryn i Bort Talbot gan gysylltu’r RhBC y gellir mynd arno ar hyd promenâd Aberafan tuag at Gastell-nedd ac Abertawe, neu i’r Dwyrain i Fynydd Cynffig a Phen-y-bont ar Ogwr.
Atyniadau naturiol:
- Parc Fforest Afan
- Cwm Afan
Atyniadau i ymwelwyr:
- Canolfan Ymwelwyr Parc Fforest Afan a’r Amgueddfa Lofaol
- Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Larger Map
Sylwadau (1)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
De-ddwyrain Cymru
- Pellter:
10 milltir
- Amser sydd ei angen:
2 awr
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
Ychydig oddi ar Lwybr Cenedlaethol 4
- Cychwyn:
Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Afan Argoed i'r dwyrain o Bort Talbot
- Gorffen:
Cylch siâp sigâr rhwng Pont-rhyd-y-fen a'r Cymer yng nghwm Afan yw hwn, sy'n cychwyn a gorffen yn y Ganolfan Ymwelwyr.
- Llogi beiciau:
Canolfan Beiciau Afan Argoed, Cynonville, Port Talbot. Ffôn: 01639 850564
- Mynediad:
Gorsaf drên yn Port Talbot
- Mapiau a llysrynnau:
-
Taflen ar gael yng Nghanolfan Ymwelwyr Afan Argoed.
- Cysylltiadau Gyda:
Mae’r llwybrau di-draffig agosaf ar hyd Camlas Castell-nedd, Camlas Abertawe a thrwy Ben-y-bont ar Ogwr.
- Tywydd:
-
Llun
uchaf: 21°C isaf: 15°C
-
Mawrth
uchaf: 21°C isaf: 16°C
-
Mercher
uchaf: 22°C isaf: 13°C
-
Iau
uchaf: 20°C isaf: 17°C
Dewis llwybr arall
20/09/08, at 05:18 PM
The valley has the nickname of Little Switzerland and it certainly lives up to its name. It’s a lovely ride and hopefully with Sustrans being awarded the lotterry grant for its Connect2 scheme you will soon be able to access the route all the way from the railway station and the town. Afan Argoed and Glyngorwg are amongst the best mountain bike courses in the world. Yet there is plenty of gentle family cycling going up the valley as well. Just make sure if the weather’s a bit changeable to take the correct clothing with you.