Routes2Ride

Llwybr Cymunedol Pentre’r Eglwys Llantrisant i Tonteg
O dafarn y Cross Inn yn Llantrisant, mae’r llwybr llawn golygfeydd hwn yn mynd i’r gogledd o Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys i gyrion Tonteg, gan roi cyfle gwych i ymwelwyr a chymudwyr fwynhau tirwedd gyfoethog y Cymoedd a’r amgylchedd gwledig.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 4 milltir

Taith Cynon
Taith Cynon yw un o'r llwybrau beicio diweddaraf i gael ei agor yn y cymoedd. Gan ei fod yn rhedeg ar hyd coridor naturiol Afon Cynon, mae'n rhoi cyfle gwych i feicio yn y rhan godidog hwn o Dde Cymru.
Dosbarthiad: Pellter: 11 milltir
Cwm Aman
Dechrau llwybr gwych yn cysylltu Rhydaman â Chwm Aman uchaf, mae'r llwybr byr sy'n bodoli ar hyn o bryd yn ddihangfa glan afon hardd sy'n eich arwain drwy goedwigoedd a pharciau.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 2.5 milltir

Cwm Tawe: Clydach i Arsyllfa Abertawe
Gan ddilyn cymysgedd o lwybrau glan afon, adrannau newydd a adeialdwyd i'r diben a hen linellau rheilffordd, mae'r llwybr hwn yn darparu llain werdd drwy galon ddiwydiannol Cwm Tawe. O'r daith mae'n bosibl gweld rhai o nodweddion gorffennol diwydiannol y cwm tra ar yr un pryd mae'r daith yn dangos y presennol sydd wedi ei adfywio.
Dosbarthiad: Pellter: 8.5 milltir

Cwm Tawe: Clydach i Ystalyfera
Taith ysgafn iawn yw hon ar hyd llwybr tynnu camlas a hen reilffordd, yn dilyn llawr y dyffryn rhwng dwy o brif drefi Cwm Tawe. Gan ddechrau o Barc Coed Gwilym mae'r llwybr yn cydio yn y llwybr tynnu camlas ac yn mynd a chi i ganol Pontardawe. Gan symud i ffwrdd o'r gamlas a dilyn glan yr afon fe ddewch i'r hen lein rheilffordd. Bydd hyn yn mynd â chi drwy goedwigoedd sy’n rhedeg gyda’r afon cyn dod allan ar gyrion Ystalyfera.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 6.5 milltir
Merthyr Tudful i Aberhonddu
Mae'r daith hon ar gyfer y rheiny sy'n hoffi mynd i galon parc cenedlaethol, ond mae'n cychwyn yn nhref lofaol enwocaf De Cymru, ac yn diweddu yn nhref brydferth wledig Aberhonddu.
Dosbarthiad: Pellter: 25 milltir
Llanfair-ym-Muallt i Glas-ar-Wy drwy Orsaf Erwood
Gan redeg i lawr Dyffryn Gwy, mae'r daith yn dilyn lonydd cefn, gydag adrannau di-draffig byr yn Llanfair-ym-Muallt. Mae hen orsaf reilffordd Erwood, sydd erbyn hyn yn gaffi ac amgueddfa, tua hanner ffordd ar hyd yr adran, ac mae'n fan gorffwys delfrydol i gael ychydig o luniaeth, ac yn fan troi da ar gyfer y rheiny sydd eisiau taith fyrrach.
Dosbarthiad: Pellter: 15 milltir

Abergwaun i Dyddewi
Oherwydd poblogrwydd Tyddewi, gall hyd yn oed yr isffyrdd fod yn brysur wrth i chi ddynesu at y ddinas fechan unigryw hon a'i Chadeirlan enwog, ond peidiwch â gadael i’r traffig eich atal rhag mynd gan fod yr olygfa yn wych ac mae lleoliad Tyddewi yn hollol fendigedig.
Dosbarthiad: Pellter: 19 milltir
Port Talbot i Gydweli
Mae’n bosibl mae hon yw’r adran hiraf o lwybr di-draffig di-dor ar y RhBC. O’r 42 milltir, dim ond 5 milltir sydd ar ffyrdd tawel, gyda’r gweddill ar lwybrau di-draffig wedi eu hadeiladu at y diben.
Dosbarthiad: Pellter: 42 milltir
Casnewydd i Gaerdydd ar hyd y Lôn Geltaidd a Thaith Taf
Gyda dewis o ddwy daith wahanol yn cynnig hyd gwahanol ac amodau llwybr gwahanol, mae'r teithiau rhwng Casnewydd a Chaerdydd yn deithiau gwych ar gyfer y beiciwr mwy heini a medrus. Mae'r teithiau yn arddangos cymoedd De Cymru, y gorffennol a'r presennol, gyda nifer o nodweddion hanesyddol, golygfeydd gwych a bywyd gwyllt ym mhobman.
Dosbarthiad: Pellter: 29 - 38 milltir