Nôl

Ynglŷn â Sustrans

Fyddwch chi byth yn meddwl sut fyddai bywyd pe byddem yn teithio mewn ffyrdd a fyddai mewn gwirionedd yn gwella ein hiechyd a’r amgylchedd? Byddai gennym ffyrdd diogel, aer glanach a gwell ansawdd bywyd.  Sustrans yw prif elusen trafnidiaeth gynaliadwy y DU.  Bob dydd rydym yn gweithio i gael atebion ymarferol a llawn dychymyg ar gyfer yr heriau trafnidiaeth sy’n effeithio ar bob un ohonom.

Ond beth yw trafnidiaeth gynaliadwy?  Yn y bôn, er mwyn i fodd o drafnidiaeth fod yn gynaliadwy rhaid iddo fodoli o fewn adnoddau’r blaned er mwyn creu'r adnoddau sydd eu hangen i greu a gyrru pob math o drafnidiaeth, ac amsugno’r gwastraff a ddaw yn sgil eu creu a’u defnyddio.

Ar hyn o bryd mae’r modd yr ydym yn teithio yn defnyddio llawer iawn o un o adnoddau naturiol mwyaf gwerthfawr y byd - olew.  Mae llosgi’r olew hwnnw at ddibenion teithio yn creu llawer o wastraff, yn cynnwys llygredd a CO2, un o’r nwyon tŷ gwydr  sy’n gyfrifol am newid hinsawdd.

Rhaid i ni hefyd ystyried ein hiechyd.  Gallwn deithio pellteroedd anferthol heb hyd yn oed symud, ac mae ein ffyrdd eisteddog o fyw  yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles.  Mae bron i chwarter yr oedolion yn y DU yn ordew, ac mae 27% o ferched a 24% o fechgyn 11-16 oed hefyd yn ordew.

Beicio, ac yn arbennig cerdded, yw’r ffyrdd mwyaf cynaliadwy o deithio.  Ychydig iawn o adnoddau’r blaned a ddefnyddir a bwyd yw’r ffynhonnell tanwydd sydd ei angen ar y ddau ddull.

Ond a yw beicio a cherdded yn ddewis mewn gwirionedd yn ein bywydau bob dydd?  Pan fyddwch yn ystyried bod chwarter yr holl siwrneiau a wneir mewn car dan 2 milltir o hyd, ydy yw’r ateb.  Gellid cerdded neu feicio llawer o'r siwrneiau byr hyn.  Meddyliwch am y daith i'r ysgol – ychydig dros 3 milltir ar gyfartaledd yw hyd y daith i’r ysgol, ond mae beicio'r pellter hwnnw yn cymryd llai na hanner awr.  Ac mae plant  yn torri’u boliau i gael beicio i’r ysgol - byddai 31% yn hoffi gwneud hynny, ond dim ond 1% sydd yn gwneud.

Felly mae Sustrans wedi mynd ati i greu amgylchedd a fydd mewn gwirionedd yn cynorthwyo pobl i gerdded a beicio llawer mwy.  Dyna i chi’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n gymysgedd o strydoedd gyda thraffig wedi ei dawelu, ffyrdd tawel a llwybrau di-draffig mewn cymunedau ym mhob rhan o’r DU, yn helpu pobl i gyrraedd y gwaith, y siopau, yr ysgol ac i chwarae.

Mae’r cynlluniau Llwybrau Diogel i'r Ysgol a Bike It, y ddau yn gynlluniau Sustrans, yn gweithio gydag ysgolion a phlant i roi’r annibyniaeth y maent yn dyheu amdano fel y gallant gyrraedd yr ysgol ar feic neu ar droed a hefyd roi tawelwch meddwl i rieni fel y gallant adael iddynt deithio i’r ysgol yn y modd hwn.

Felly pam trafnidiaeth gynaliadwy?  Oherwydd ein bod ni’n credu y dylai pawb gael y cyfle i deithio mewn ffyrdd sydd o fudd i’w hiechyd a’r amgylchedd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan yn www.sustrans.org.uk

Sustrans